Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020
Amser:
09.15 -
11.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6432
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd) Michelle Brown AS Neil McEvoy AS Jack Sargeant AS Leanne Wood AS |
Tystion: |
Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Andy Falleyn, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a gwnaeth ddatganiad byr am ymddygiad yn ystod cyfarfodydd a thu allan iddynt.
2 Deisebau newydd Covid-19
2.1 P-05-997 Gadewch i bobl Cymru ddefnyddio ap Tracio ac Olrhain yr Almaen! Allwn ni ddim aros am ap o Loegr!
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd bod ap olrhain Covid-19 wedi’i lansio ar 24 Medi, ac felly ei bod yn debygol nad oes llawer y gellid ei gyflawni drwy wneud rhagor o ran y ddeiseb.
2.2 P-05-1014 Rhowch statws "gweithiwyr allweddol" i bractisau deintyddol a'u staff
Mynegodd y Pwyllgor ei siom ynghylch y diffyg
ymateb amserol i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu eto i ofyn am ymateb i hyn ac ymateb dilynol gan y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb eto.
2.3 P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn pa ganllawiau sydd ar gael i ddisgyblion ynghylch gwisgo gorchuddion wyneb a beth sy'n cael ei wneud i hwyluso gwaredu mygydau wyneb yn ddiogel ac mewn modd cyfeillgar i'r amgylchedd mewn ysgolion.
· I aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.
2.4 P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i ddyfarnu graddau yn 2020 a 2021 a’r penderfyniadau y disgwylir i'r Gweinidog Addysg eu gwneud yn fuan; ac
· ysgrifennu at Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ofyn am ymateb i bryderon y deisebwyr ynghylch y gwahaniaethau yn y dull o addasu cynnwys cyrsiau sy'n digwydd o ran pynciau unigol, a’r alwad am ragor o ddewisoldeb mewn papurau arholiad os na chaiff cynnwys cyrsiau ei leihau.
2.5 P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i'r gemau
Datganodd Jack Sargeant y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
2.6 P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru
3 Sesiwn Dystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Andy Falleyn.
4Deisebau Newydd Eraill
4.1 P-05-1022 Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LGBTQ Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ymatebion a gafwyd, gan gynnwys boddhad eang y deisebwyr. Yng ngoleuni'r blaenoriaethu o ran hyblygrwydd pynciau a addysgir yn y cwricwlwm newydd a chyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i bwysleisio pwysigrwydd ymdrin â'r mater hwn a chau'r ddeiseb.
4.2 P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i'w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa’r Economi Gylchol a boddhad y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.
4.3 P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am fanylion ar waith a wnaed ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddefnyddio maglau yng Nghymru, gan gynnwys mewn perthynas â chasglu data ac adolygiadau blynyddol o'r Cod Ymarfer.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol
o ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu sylwadau manwl y deisebwyr, er mwyn llywio Ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor i ansawdd aer; a
o ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i roi’r sylwadau manwl ychwanegol am Gynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru a'r cynigion ar gyfer Papur Gwyn ar Ddeddf Aer Glân newydd, er gwybodaeth.
5.2 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)
Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd hyd yma gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau o dan Adran 1 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i ymestyn y diffiniad o “anifail’ i gynnwys infertebratau ar sail lles anifeiliaid, a pha dystiolaeth sydd wedi'i hystyried fel rhan o hyn.
5.3 P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb, a chytunodd i:
o ysgrifennu at y pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n gyfrifol am graffu ar Fil Amgylchedd y DU i nodi ei gefnogaeth i’r darpariaethau perthnasol sy’n cael eu darparu i Weinidogion Cymru; ac i
o ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i annog bod pwerau ychwanegol yn cael eu defnyddio, pan fyddant ar gael, i'w gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi bwyd sydd dros ben.
5.4 P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth o ran y deisebwyr, ac yn gwirfoddoli i’r mudiad a gynrychiolant.
Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gyda chynnwys y llythyr i'w gytuno y tu allan i'r cyfarfod.
5.5 P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri
Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod Ward Sam Davies wedi aros ar agor a bod y deisebwyr yn fodlon â'r sefyllfa bresennol.
5.6 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru
Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt diweddar gan y deisebydd, a'r cadarnhad gan y Gweinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd na Chod Ymarfer yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
5.7 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt gan y deisebydd, lansiad y Siarter Gwneud Lle ym mis Medi ac ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddigartref mewn gwaith perthnasol ar y mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a darparu manylion y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor i’r deisebwyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y Sesiwn Tystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.